Croeso i Ysgol Llangain
Gweithio a llwyddo gyda'n gilydd ..... Working and succeeding together
Diolch i chi am ymweld â’n gwefan lle cewch fynediad i wybodaeth am ein hysgol.
Saif Ysgol Gynradd Gymunedol Llangain ym mhentref bychan Llangain ar lannau’r afon Tywi, tua 3 millltir o dref Caerfyrddin. Daw plant yr ysgol o ardal eang gan gynnwys tref Caerfyrddin, yn ogystal â’r gymuned leol.
Adeilad un llawr yw’r ysgol sy’n cynnwys adeilad cynllun agored lle lleolir dau ddosbarth, neuadd aml-ddefnydd a chegin. Yn ogystal mae yna Swyddfa/Ystafell Athrawon, toiledau, cynteddau a chypyrddau storio. O gwmpas yr ysgol mae yna gae chwarae ac ardaloedd chwarae caled.
Prif nodau ac amcanion Ysgol Llangain yw
- I ddatblygu gwerthoedd moesol a bod yn ymwybodol o, ac yn oddefol at, hiliau a chrefyddau eraill.
- I greu awyrgylch hapus a chartrefol lle mae dysgu yn digwydd o fewn eu cymuned.
- I ddatblygu sgiliau ac agweddau ar gyfer addysg gydol oes.
- I feithrin a datblygu hunan-ddisgyblaeth a hybu cydymdeimlad at eraill.
- I roi cyfle cyfartal i fechgyn a merched ym mhob agwedd o waith a bywyd yr ysgol.
- I gyflwyno cwricwlwm eang a chytbwys a fydd yn berthnasol i oed, gallu a chefndir y plentyn er mwyn i bob disgybl gyrraedd ei botensial.
- I bwysleisio’r angen am ddeall a gofalu am yr amgylchedd a’r gymuned.
- I addysgu’r plant trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i’w helpu i fod yn ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd11 oed.
- I annog unigolion i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas.
- I sicrhau bod y berthynas rhwng yr ysgol, cartref a’r gymuned yn hybu cyd-weithrediad effeithiol ymhlith rhieni, staff a llywodraethwyr er lles y disgybl.
- I ddatblygu sgiliau sylfaenol y plant mewn llythrennedd, rhifedd, Technoleg Gwybodaeth a sgiliau meddwl.