Dosbarth 1
Athrawes Ddosbarth: Miss Kelly Jacob
Cynorthwy-ydd Dosbarth: Mrs Angela Sainty, Mrs Rhiannydd Evans
Dosbarth cymysg yw hwn ar gyfer blynyddoedd Meithrin, Derbyn 1 a 2 (3-7 mlwydd oed)
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn weithredol mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer plant o 3-7 mlwydd oed. Mae'r addysg sy'n cael ei gynnig o fewn y Cyfnod Sylfaen wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygiad cyfannol y plentyn - mae'r plentyn yn ganolog i'r dysgu.
Mae'r addysg a gweithgareddau yn cwmpasu anghenion y plentyn, ac mae hyn trwy gyfrwng chwarae. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae strwythuredig, mae'r plentyn yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau unigryw, gwerthfawr.
Mae'r holl gyfleoedd hyn yn hanfodol ar gyfer y plentyn gan eu bod yn cyfrannu at ddatblygiad y plentyn yn ei gyfanrwydd.
Y 7 maes dysgu
Mae saith maes dysgu o fewn fframwaith y Cyfnod Sylfaen, yn ogystal ag Addysg Grefyddol sydd yn bwnc ychwanegol.
Y Saith Maes Dysgu yw:
- Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol
- Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Datblygu'r Gymraeg
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Mae'r agweddau yma'n cael eu trefnu i weithgareddau dysgu ac ni fyddant yn cael eu dysgu'n unigol. Mae cyfleodd dysgu'n cael eu trefnu o fewn themau ac mae'r 7 maes dysgu'n plethu'n naturiol i'w gilydd.
Yr Iaith Gymraeg
Un o'r meysydd dysgu yw "Datblygu'r Gymraeg". Mae Ysgol Llangain yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn annog pob disgybl i ddefnyddio'r iaith. Ein nod yw datblygu pob disgybl i fod yn hollol ddwy-ieithog. Heb os nac onibai mae bod yn ddwy-iethiog o fantais mawr i'r disgyblion.
Pam mae dysgu allanol mor bwysig?
Mae dysgu yn yr awyr agored yn bwysig oherwydd;
- Mae'n gyffrous ac yn cymell disgyblion i ddysgu.
- Mae'r disgyblion yn defnyddio eu pum synnwyr .
- Mae'n hybu annibyniaeth
- Mae'n datblygu natur chwilfrydig y disgyblion i ymchwilio a'u perthynas gyda'r amgylchedd naturiol.
- Mae'r amgylchedd allanol yn cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion a'u datblygiad fel person cyflawn: yn gymdeithasol, corfforol, diwylliannol, a phersonol tra'n datblygu eu sgiliau gwybyddol.